Folk-Lore of West and Mid-WalesDavies, Jonathan Ceredig
History
Folk-Lore of West and Mid-Wales
Davies, Jonathan Ceredig
Folklore -- Wales; Wales -- Social life and customs
An old man named John Jones, who lives at Pontrhydfendigaid, informed
me that a ghost which haunted a farm between Pontrhydfendigaid and
Tregaron, was engaged in the dangerous game of stone-throwing to the
great discomfort of the family. There are several such stories in
different parts of the country.
I found the following strange tale in an old Welsh book entitled,
"Golwg ar y Byd," written by the Rev. D. Lewis, Vicar of Llangattwg,
Glamorganshire, and printed at Carmarthen in 1725:
CHWEDL AM YSPRYD.
"Yn mhlwyf Llangeler, yn Sir Gaerfyrddin, Mai 21ain, 1719, y dechreuodd
yspryd yr hwn a barhaodd dros hir amser, i daflu ceryg at rhai oedd
yn y maes yno. Dydd Iau y Sulgwyn y dechreuwyd dyrnu, oddeutu wyth y
boreu, ac y dechreuodd yntau daflu ceryg. Un o'r dyrnwyr yn gyntaf a
welodd y gareg yn disgyn ar y llawr dyrnu. Yr ail gareg a ddisgynodd ar
glin morwyn y ty, nes ydoedd clais arni; ac yn mhen ychydig llanwasant
y llawr dyrnu a'r twyn oddiamgylch, yr hyn a wnaethant wedi hyny. Y
dyrnwyr a roisant heibio eu gwaith, ac a aethant i edrych pwy oedd
yn eu taflu hwynt, ond ni allasent weled neb.
"Dydd Gwener,--Y forwyn, pan yn yr ardd, a darawyd dair gwaith. Tarawyd
amryw o'r plant, nes iddynt fyned allan o'r ty. Daeth llawer yn nghyd
i weled y rhyfeddodau hyn, ac yr oedd pawb ag oedd yn dyfod yn cael
gweled y ceryg yn disgyn.
"Dydd Sadwrn,--Tarawyd y forwyn ac un o'r dyrnwyr. Yr oedd rhai ceryg
yn chwyrnu, ac megys cleisiau ar amryw o honynt. Y ceryg ni welid
nes byddent yn disgyn, a phan godid hwynt byddai eu hol ar y llawr,
megys pe byddent yno flwyddyn o'r blaen. Daeth pawl mawr yn groes i'r
ffenestr, heb neb gweledig yn dyfod ag ef. Rhai ni chredent nes danfon
cenadon i weled, ac i gyrchu rhai ceryg adref i'w tai. Cyfodwyd cyff
mawr o bren o'r croch i ben y ty, ac a ddisgynodd mewn man arall.
"Dydd Sul,--Daeth llawer iawn yn nghyd i weled, ac amryw o
honynt yn tyngu ac yn rhegu, ac yn siarad yn gableddus ac yn
ysgafn. Disgynodd ceryg mawrion ar y lloft yn y ty, ond ni welwyd hwynt
nes disgynent. Tarawyd bar haiarn allan o'r ffenestr, a phlygwyd un
arall fel bach ysdarn; a'r ffenestr a dorwyd yn friwion man. Wedi'r nos
daeth ceryg i'r gwelyau, a chloriau'r ffenestri a aethant i'r llofft;
a gorfu ar dylwyth y ty gyfodi o'u gwelyau a myned i dy cymydog. Nid
oedd ond y ceryg yn llawn yn y ty ac oddiamgylch iddo.
"Nos Fercher,--Llosgwyd yr ysgubor a'r llafur, a llawer o bethau
eraill; yr oedd ef bob dydd yn taflu ceryg, ond nid bob awr. Yr oedd
weithiau yn taflu mor gynted ag y gellid eu rhifo, a'r rhan fwyaf
o honynt yn geryg afon, a rhai o honynt yn chwech pwys neu ragor
o bwysau.
"Daeth cymydogion yn nghyd un noswaith i weddio ar Dduw yn y ty,
ac ni fu yno fawr o stwr y noson hono. Llawer o bethau yn rhagor a
wnaeth efe, ond o'r diwedd efe a ddarfu ac a beidiodd."
For the benefit of those who are unable to read Welsh, I give the
following translation of the above account:--
A STORY OF A GHOST THROWING STONES AT LLANGELER.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Elsewhere in the archive
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account