Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
Yr oedd yr anffodus Lewelyn Goch yn fardd penigamp yn ei ddydd; a
chyfrifir ei fod yn ei flodau o’r flwyddyn 1330 i 1370. Argraffwyd
chwech o’i gyfansoddiadau yn y gyfrol gyntaf o’r _Myfyrian Archaiology of
Wales_; ac y mae amryw o bonynt yn aros hyd yn hyn mewn llawysgrifen heb
weled goleuni dydd. Nid ydys yn gwybod fod yr alarnad a ganlyn wedi ei
bargraffu erioed o’r blaen. Y mae yn ein meddiant gyfieithiad Saesonig o
honi mewn rhyddiaeth, o waith Ieuan Brydydd Hir; ac efelychiad o fesur
cerdd, yn yr un iaith, o waith y diweddar Risiart Llwyd, Bardd Eryri.
Ysgrifenwyd marwnad Llewelyn Goch ei hun gan Iolo Goch.
Y mae, neu o leiaf yr oedd, caead arch un Lleucu Llwyd, yr hon a fu farw
yn y flwyddyn 1402, i’w weled yn Eglwys Llaneurgain, yn ar Fflint; ond
nid ymddengys mai Lleucu Llwyd o Bennal yw y rhian a goffëir yno. Yr
oedd Lleucu Llwyd Llaneurgain yn ferch i Rys ab Rhobert, o’r Cinmael, ac
yn wraig i Hywel ab Tudur, o’r Llys, ynmhlwyf Llaneurgain, ac yn nith i’r
bardd Dafydd Ddu o Hiraddug. Hywel ab Tudur ydoedd un o henafiaid y
teuluoedd presenol sy’n dwyn yr enw _Mostyn_.
Y mae _Llewelyn a Lleucu_, yn gystal testyn cerdd a _Romeo and Juliet_;
ond, pa le mae’r Shacspear Cymraeg i ysgrifenu trychwawd arno?—_Y
Brython_.
Llyma haf llwm i hoew-fardd,
A llyma fyd llwm i fardd!
Nid oes yng Ngwynedd heddiw,
Na lloer, na llewyrch, na lliw,
Er pan rodded—trwydded trwch—
Dan lawr dygn dyn loer degwch.
Y ferch wen o’r dderw brenol,
Arfaeth ddig yw’r fau o’th ol!
Cain ei llun, canwyll Wynedd,
Cyd bych o fewn caead bedd!
F’ enaid! cyfod i fynu,
Agor y ddaiar-ddor ddu!
Gwrthod wely tyfod hir,
A gwrtheb f’ wyneb, feinir!
Mae yma, hoewdra hydraul,
Uwch dy fedd, hoew annedd haul,
Wr llwm ei wyneb hebod,
Llewelyn Goch, gloch dy glod;
Yn cynnal, hyd tra canwyf,
Cariad amddifad ydd wyf;—
Ud-fardd yn rhodio adfyd
O Dduw gwyn! hyd hyn o hyd.
Myfi, fun fwyfwy fonedd,
Echdoe a fûm uwch dy fedd,
Yn gollwng deigr lled eigr-braff
Ar hyd fy wyneb yn rhaff:
Tithau, harddlun y fun fud,
O’r tew-bwll ni’m hatebud!
Tawedawg ddwysawg ddiserch,
Ti addawsud, y fud ferch,
Fwyn dy sud fando sidan,
Fy aros, ddyn loew-dlos lân,
Oni ddelwn, gwn y gwir,
Er dy hud, o’r Deheudir,
Ni chigle, sythle saeth-lud,
Air na bai wir, feinir fud,
Iawn-dwf rhïanaidd Indeg,
Onid hyn o’th eneu teg.
Trais mawr! ac ni’m tawr i ti!
Toraiat ammod, trist imi,
Tydi sydd yn y gwŷdd gwan
Ar y gwir, ddyn deg eirian!
Minnau sydd uthrydd athrist
Ar y celwydd—tramgwydd trist!
Celwyddawg iawn, cul weddi,
Celwydd lais a soniais i.
Mi af o Wynedd heddyw,
Ni’m dawr ba faenawr i fyw:
Fy myn foneddig ddigawn,
Duw’n fach, petid iach nid awn!
P’le caf, ni’m doraf dioer,
Dy weled, wendw’ wiw-loer?
Ar fynydd—sathr Ofydd serch—
Olifer, yn oleu-ferch.
F’ enaid yno ä’n fynych,
O’th wela’, ddyn wiwdda wych.
Lleucu dêg waneg wiwnef!
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Elsewhere in the archive
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account