Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
hunain i’r byd; ac os darfu i mi wneuthur cyfiawnder iddynt, dyna fi wedi
cyrraedd fy amcan. Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae’n llawen genyf gael
odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a’ch
traserch chwi at eich gwlad a’ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy
ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr
haeddbarch,
Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf,
EVAN EVANS.
AT Y CYMRY.
Pan welais fod un o _Ysgodogion Ucheldir Alban_, ac hefyd _Sais_
dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i’r _Saesoneg_, mi a
dybygais mai nid gweddus i ni, y _Cymry_, y rhai sydd genym Gerddi
awduraidd, gorhenaidd, o’r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws
hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna’r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd
ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae _gwaith y Derwyddon_, od
oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll;
ac nid oes dim wedi dyfod i’n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn
unig. I mae ein hen _Fusic_ wedi ei llwyr ebargofio: nid yw’r cyweiriau
cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y
_Cymry_ yn griddfan tan iau galed y _Saeson_. Am gelfyddydau eraill, od
oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym
ddim hanes am ein hynafiaid o’n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y
Beirdd yn unig, o flaen _Gildas ap Caw_; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn
ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr
hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy
ddwylo’r _Meneich_; gwŷr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i’w
dibenion eu hunain.—Y Beirdd, fal i tystia _Giraldus_, Arch-diacon
_Brycheiniog_, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu
gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i
_Dysilio_ fab _Brochwel Ysgythrog_, tywysog _Powys_, ysgrifennu’r _hanes_
sydd yr awron yn myned tan enw BRUT Y BRENHINOEDD, yr hwn a ddarfu i
_Galfrid ap Arthur_, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith _Llydaw_ i’r
_Lladin_, ac oddiyno yn _Gymraeg_; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn
amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i’w gweled yng Nghymru; ond
ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes _Tysilio_:
_Flamines_ ac _Archiflamines_, a phrophwydoliaeth _Myrddin Emrys_, a
phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y
Beirdd, e fuasai genym gywirach hanes nag sydd genym yr awron: ond fel ag
i mae, ni haeddai yn gwbl mo’r gogan i mae’r _Saeson_, o amser _Camden_,
yn ei rhoi iddi; o herwydd i mae _Nennius_, yr hwn a ysgrifennodd
drychant o flynyddoedd o’i flaen, yn rhoddi yr un hanes am ein dechreuad.
Ir wyf yn amcanu, os Duw a rydd im’ hoedl ac iechyd, osod allan yr awdur
hwn a nodau helaeth arno, gyd ag amddiffyniad o’r hanes; o herwydd efe
yw’r hanesydd hynaf a feddwn yn _Lladin_, oddigerth y _Gildas_ uchod, yr
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account