Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
hwn nid yw deilwng ei gyfrif yn hanesydd; o herwydd nid dyna ei gyngyd
na’i fympwy, yn ei _Epistolæ de excidio Britanniæ_. Ir wyf yn methu a
chaffael copi iawn o _Nennius_, ac ir wyf yn meddwl nad oes un yng
Nghymru a dâl ddim, ond yn _Hengwrt_: da iawn er lles y wlad a
hanesyddion _Prydain_, i gwnai ei berchennog adael i ryw wr dysgedig ei
gymharu. I mae genyfi ddau gopi, ond i maent yn dra ammherffaith; felly
hefyd i mae’r rhai printiedig, o eiddo’r Dr. _Gale_ a _Bertram_. Ni wiw
i _Sais_, na neb dieithr, bydded mor ddysgedig ag i mynno, oni ddeall ef
Gymraeg yn iawn, ac oni chaiff hefyd weled ein hen ysgrifenadau a’n
Beirdd ni, gytcam a’r fath waith. Nid yw _Camden_, er dysgedicced,
diwytted, a manyled gwr ydoedd, ond ymleferydd am lawer o bethau yn ei
_Britannia_; a hyny yn unig, o achos nad oedd yn medru yr iaith yn well.
A gresyn yw, nad oedd y _Saeson_, y rhai oeddynt yn ddiau (rai o naddunt)
yn chwilio pethau yn dêg, ac yn ddiduedd dros ben, y cyfryw ag ydoedd
_Leland_, _Usher_, a _Selden_, yn deall ein iaith, a medru gwneuthur
defnydd o’n hen lyfrau: o herwydd hyn, nid oeddynt, er cymaint eu dysg
a’u dawn, ddim i’w cyffelybu ag _Wmffre_ _Llwyd_ o _Ddinbych_, a _Rhobert
Fychan_ o’r _Hengwrt_, fel i mae eu gwaith yn eglur ddangos. Ac yn
ddiau, mae yn ammhosibl i undyn, bydded mor gywreinied ag i myno,
wneuthur dim â ffrwyth ynddo, heb gaffael gweled yr hen ysgrifenadau,
sydd yn gadwedig yn llyfr-gelloedd y boneddigion yng _Nghymru_; yn
enwedig yn _Hengwrt_, a _Llan Fordaf_. Myfi a welais, ac a gefais
fenthyg amryw lyfrau o waith llaw, yn llyfrgrawn yr anrhydeddus _Robert
Davies_, ysgr. o _Lannerch_ yn Swydd _Dinbych_; a Sir _Roger Mostyn_ yng
_Ngloddaith_, seneddwr dros Swydd _Flint_; a chan yr anrhydeddus _William
Fychan_, ysgr. o _Gors y Gedol_, seneddwr dros Swydd _Feirionydd_; yr hyn
ni fedraf lai nâ’i fynegu yma yngwydd y byd, er coffau eu cymmwynas a’u
hewyllys da i’n gwlad a’n iaith, ac i minnau hefyd; yn ol arfer
canmoladwy, a haelioni yr hen _Frython_ gynt.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account