Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
* * * * *
Αιει τουτο Διος κόυραις μέλει, άιεν άοιδοις
Υμνειν αθανάτως, υμνειν αyαθων κλέα ανδρων.
THEOCRITUS Idyll, xvi.
* * * * *
AT
RISIART MORYS, YSWAIN,
LLYWYDD CYMDEITHAS Y CYMMRODORION YN LLUNDAIN;
A’I FRODYR,
LEWIS MORYS, YSWAIN, O BENBRYN,
YNG NGHEREDIGION; A
WILLIAM MORYS, O GAERGYBI, YM MON.
Ni bum yn hir yn myfyrio i bwy i cyflwynwn yr ychydig Awdlau sydd yn
canlyn, canys ni adwaen i neb heddyw ag sydd yn eu deall cystal â chwi,
na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu
Frutannaidd. I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y
_Llywydd_, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad
diweddaf y _Bibl Cyssegrlan_, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr.
Ef a dâl Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo’r byd hwn, a’i
holl fawredd a’i wychder, wedi llwyr ddiflannu. Ac i mae’r wlad a’r
iaith yn dra rhwymedig i’r _Gwr o Benbryn_, am gasglu cymmaint o
_Hanesion ynghylch ein Hynafiaid_, na chlywodd y _Saeson_ braidd son
erioed am danynt. Ef a ddelwent ddilynwyr _Camden_, pei gwelynt fal i
mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a’u tuedd gwyrgam, yn bychanu
ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru
mai dychymmygion diweddar ydynt. Gobeithio i cawn ni weled y trysor
mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw
oganwyr ein hen hanesion. Nid bychan o les i mae _y Gwr o Gaergybi_
ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu _Gwaith yr hen Feirdd_ godidog gynt; ac
ir wyf yn cyfaddef mai o’i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o’r odlau
sydd yn canlyn. Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i’ch
gwlad a’ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes
hon. Ef a ddichon hyn beri i’n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn
well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll. Ac os na wna
hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn
odiaeth. Hyn a’m hannogodd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond
bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i’w
gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd
ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill godidoccach. Nid oedd genyfi
ond torri’r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau.
Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw
o’r _Saeson_, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dâl ei ddangos i’r
byd: a bod un o drigolion yr _Uch Alban_ gwedi cyfieithu swrn o waith hen
fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a’i
osod allan yn ei enw ef. Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen
feirdd awduraidd ni, sydd eto i’w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y
bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mhellach yr
awron. Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o’n hen feirdd ein
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account