Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
Ond i mae rhai yn yr oes yma yn chwenychu eu cadw a’u coledd, er mwyn eu
hiaith ddigymmysg, ac er mwyn gwell gwybodaeth o foesau ac ansawdd ein
hynafiaid; ac er mwyn eu teilyngdod eu hunain; o herwydd i mae yn rhai
o’u Hawdlau a’u Cywyddau, ymadroddion mor gywraint a naturiol ag sydd ym
Mhrydyddion Groeg a Rhufain; mal i gwyr y sawl a’u deallant yn dda.—Ymysg
eraill i mae Cymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, yn rhoddi mawrbarch
iddynt; ac yn chwenychu cadw cynnifer o’n hen ysgrifenadau ag sydd heb
fyned ar goll. A da i gwneynt foneddigion Cymru, ped ymoralwent am
argraffu y pethau mwyaf hynod a gwiwgof mewn prydyddiaeth, hanesion, ac
eraill hen goffadwriaethau; o herwydd i maent beunydd yn cael eu difrodi,
gan y sawl ni wyddant ddim gwell. Hyn, er lles ein gwlad a’n iaith, yw
gwir a diffuant ddamuniad
Eich gostyngedig wasanaethwr, a’ch ewyllysiwr da,
EVAN EVANS.
I. HIRLAS OWAIN.
_Owain Cyfeiliog e hun ai cant_.
Gwawr pan ddwyre gawr a ddoded,
Galon yn anfon anfudd dynged,
Geleurudd ein gwyr gwedi lludded trwm,
Tremit gofwy mur _Maelawr Drefred_.
Deon a yrrais dygyhyssed,
Diarswyd a’r frwydr arfau goched,
A rygoddwy glew gogeled rhagddaw,
Gnawd yw oi ddygnaw ddefnydd codded!
Dywallaw di fenestr gan foddhäed,
Y corn yn llaw _Rhys_ yn llys llyw ced,
Llys _Owain_ ar braidd yt ryborthed erioed,
Porth mil a glywi pyrth egored.
Menestr am gorthaw, nam adawed
Estyn y corn er cyd yfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed,
Hirlas i arwydd aur i dudded:
A dyddwg o fragawd wirawd orgred,
Ar llaw Wgan draws dros i weithred,
Canawon Goronwy, gwrdd gynnired gwyth,
Canawon hydwyth, hydr eu gweithred:
Gwyr a obryn tal ymhob caled,
Gwyr yngawr gwerthfawr gwrdd ymwared,
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunat cyrn medd mawr a wna neued.
Dywallaw di’r corn argynfelyn,
Anrhydeddus, feddw, o fedd gorewyn,
Ac o’r mynni hoedl hyd un blwyddyn,
Na ddidawl i barch, can nid perthyn,
A dyddwc i Ruffydd waewruddelyn,
Gwin a gwydr goleu yn ei gylchyn,
Dragon Arwystli, arwystl terfyn,
Dragon Owain hael o hil Cynfyn,
Dragon iw dechreu, ac niw dychryn cat,
Cyflafan argrat cymwy erlyn.
Cetwyr idd aethant er clod obryn:
Cyfeddon, arfawc, arfau Edwyn,
Talassant i medd mal gwyr Belyn gynt,
Teg i hydrefynt tra bo undyn.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account