Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai
o’r Beirdd godidog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen
gynghanedd? I’r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion
yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai
o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, _Owain
Cyfeiliog_, tywysog _Powys_; a _Hywel ap Owain Gwynedd_, Bardd a rhyfelwr
godidog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na’r Beirdd diweddar, o ran
eu testunau. Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae _Sion Dafydd
Rhys_ yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i’r gwyr mawr, ac yn dywedyd
celwydd ar eu cân; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd
ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo’r fath feddwl nac
amcan ganddynt. Eithr yn amser y tywysogion, o’r gwrthwyneb, ir oedd y
Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir
oeddynt eu hunain yn filwyr glewion. Ir oedd _Meilir Brydydd_ yn gennad
dros _Ruffydd ap Cynan_ at frenin _Lloegr_; ac ir oedd _Gwalchmai_, ei
fab, yn flaenor câd ynghyffinydd _Lloegr_ a _Chymru_; fel i maent ill dau
yn tystiolaethu yn eu cerddi. Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn
fuddugawl yn eu rhyfeloedd â’r _Saeson_, ac ir oedd hynny yn peri i’r
Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli
eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a’u rhyddid, yn
erbyn estron genedl, a’u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid. Ir oedd
y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd
cymmwys i beri i’w deiliaid eu perchi a’u hanrhydeddu; canys ir oedd y
cerddi godidog yma yn cael eu datgan gyda’r delyn, mewn cyweiriau
cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion
a’r uchelwyr. I mae _Giraldus_ yn dywedyd, fod y _Cymry_ mor ddrud a
milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog,
â’r rhai arfog, llurugog; a’r pedydd yn erbyn y marchogion. Yn ddiau nid
oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch
yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan y Beirdd. Ac e wyddai’r
_Saeson_ hynny yn dda ddigon; canys ar ol darostwng _Cymru_ tan eu
llywodraeth, e ddarfu iddynt ddihenyddu’r Beirdd trwy’r holl wlad. I mae
llyfrau ystatud Lloegr, yn llawn o gyfreithiau creulon i’w herbyn, ac yn
gwarafun yn gaeth iddynt ymarfer o’u hen ddefodau, o glera a chymhortha.
Yn amser _Owain Glyndwr_, i cawsant ychydig seibiant a chynhwysiad i
ganu; ond gwedi hynny, hyd ddyfodiad _Harri’r Seithfed_, ir oeddynt tan
gwmmwl. Gwedi iddo ef ddyfod i lywodraethu, ac yn amser ei fab, _Harri’r
Wythfed_, a’r frenhines _Elisabeth_, y rhai a hanoeddynt o waed Cymreig,
i cawsant gynhwysiadau i gynnal Eisteddfodau: ond ni pharhaodd hynny ond
ennyd fechan, o herwydd bonedd Cymru a ymroisant i fod yn Saeson, fel i
maent yn parhau gan mwyaf hyd y dydd heddyw.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account