Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
Cyfarchaf i Dduw o ddechrau moliant,
Mal i gallwyf orau,
Clodfori o’r gwyr a geiriau
I’m pen, y penaf a giglau,
Cynnwrf tân, lluch faran llechau,
Cyfnewid newydd las ferau,
Cyfarf wyf a rhwyf, rhudd lafnau yngnif,
Cyfoethawg gynnif cynflaen cadau.
_Llewelyn_ nid llesg ddefodau,
Llwybr ehang, ehofn fydd mau,
Llyw yw hyd _Gernyw_ aed garnedd i feirch,
Lliaws ai cyfeirch, cyfaill nid gau,
Llew _Gwynedd_ gwynfeith ardalau,
Llywiawdr pobl, _Powys_ ar _Dehau_,
Llwyrwys caer, yn aer, yn arfau,
_Lloegr_ breiddiaw am brudd anrheithiau,
Yn rhyfel, ffrwythlawn, dawn diammau,
Yn lladd yn llosci yn torri tyrau,
Yn _Rhos_ a _Phenfro_, yn rhysfäau _Ffrainc_,
Llwyddedig i ainc yn llüyddau.
Hil _Gruffydd_, grymmus gynneddfau,
Hael gyngor, gyngyd wrth gerddau,
Hylathr i ysgwyd, escud barau gwrdd,
Hylym yn cyhwrdd cyhoedd waedffrau.
Hylwrw fwrw far, gymmell trethau,
Hawlwr gwlad arall gwledig riau,
Harddedd o fonedd, faen gaerau dreisddwyn,
Hirbell fal _Fflamddwyn_ i fflamgyrchau.
Hwylfawr ddreig, ddragon cyfeddau,
Heirdd i feirdd ynghylch ei fyrddau,
Hylithr i gweleis ddydd golau i fudd,
Ai feddgyrn wirodau.
Iddaw i gynnal cleddyfal clau,
Mal _Arthur_ wayw dur i derfynau,
Gwir frenin _Cymru_ cymmreisc ddoniau,
Gwrawl hawl boed hwyl o ddehau.
IX. ODLAU’R MISOEDD,
_I Sir Gruffydd Llwyd o Dref-garnedd a Dinorweg yn Arfon_; _allan or
Llyfr Coch o Hergest_, _yngholeg yr Iesu yn Rhyd Ychen_. _Gwilym Ddu o
Arfon ai cant_. 1322.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Elsewhere in the archive
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account