Folk-Lore of West and Mid-WalesDavies, Jonathan Ceredig
History
Folk-Lore of West and Mid-Wales
Davies, Jonathan Ceredig
Folklore -- Wales; Wales -- Social life and customs
"Yr oedd y pen gwas a mab y ty yn gyfeillion mynwesol iawn, fel dau
frawd, ie, fel gyfeilliaid. Gan fod y mab a'r gwas y fath gyfeillion,
byddai gwraig y ty bob amser yn darpar dillad i'r gwas yr un peth yn
hollol ag i'r mab. Cwympodd y ddau gyfaill mewn serch a dwy ddynes
ieuainc, brydferth, ac uchel eu parch yn yr ardal, a mawr oedd y
boddineb yn Llech y Derwydd; ac yn fuan ymunodd y ddau bar mewn
glan briodas, a mawr fu y rhialtwch ar yr amser. Cafodd y gwas le
cyfleus i fyw ar dir Llech y Derwydd. Yn mhen tua haner blwyddyn ar
ol priodi o'r mab, aeth ei gyfaill ac yntau allan i hela; enciliodd
y deiliad i ryw gilfach lawn o anialwch, i edrych am helwriaeth; a
dychwelodd yn y man at ei gyfaill, ond erbyn dyfod yno, nid oedd modd
gweled y mab yn un man. Parhaodd i edrych o gwmpas am dro gan waeddi
a chwibanu, ond dim un arwydd am ei gyfaill. Yn mhen tro aeth adref
i Llech y Derwydd, gan ddysgwyl ei weled yno; ond ni wyddai neb ddim
am dano. Mawr oedd y gofid yn y teulu drwy y nos; ac erbyn dranoeth
yr oedd eu pryder yn llawer mwy. Aethpwyd i weled y fan lle y gwelodd
ei gyfaill ef olaf. Wylai ei fam a'i wraig am y gwaethaf. Yr oedd y
tad dipyn yn well na'i wraig a'i fam, ond edrychai yntau fel yn haner
gwallgof. Edrychwyd ar y fan olaf y gwelodd y deiliad ef, ac er eu
mawr syndod a'u gofid, canfyddasent gylch y Tylwyth Teg gerllaw y fan,
a chofiodd y deiliad yn y man iddo glywed swn peroriaeth hudoliaethus
iawn rywle ar y pryd. Penderfynwyd ar unwaith iddo fod mor anffodus
a myned i gylch y Tylwyth, a chael ei gludo ymaith na wyddid i ba le.
"Aeth wythnosau a misoedd gofidus heibio, a ganwyd mab i fab Llech
y Derwydd; ond nid oedd y tad ieuanc yno i gael gweled ei blentyn,
ac yr oedd hyny yn ofidus iawn gan yr hen bobl. Beth bynag, daeth y
dyn bach i fyny yr un ddelw a'i dad, fel pe buasai wedi ei arlunio; a
mawr ydoedd yng ngolwg ei daid a'i nain. Efe oedd pobpeth yno. Tyfodd
i oedran gwr, a phriododd a merch landeg yn y gymydogaeth; ond nid
oedd gair da i'r tylwyth eu bod yn bobl hawddgar.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Elsewhere in the archive
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account