Folk-Lore of West and Mid-WalesDavies, Jonathan Ceredig
History
Folk-Lore of West and Mid-Wales
Davies, Jonathan Ceredig
Folklore -- Wales; Wales -- Social life and customs
"Bu farw yr hen bobl, a bu farw y ferch-yng-nghyfraith hefyd. Ar
ryw brydnawn gwyntog, ym mis Hydref, gwelai teulu Llech y Derwydd
henafgwr tal, teneu, a'i farf a'i wallt fel yr eira, yr hwn a dybient
ydoedd Iddew, yn dynesu yn araf araf at y ty. Hylldremiai y morwynion
drwy y ffenestr, a chwarddai y feistress am ben yr 'hen Iddew,' gan
godi y plant un ar ol y llall i'w weled yn dyfod. Daeth at y drws,
a daeth i mewn hefyd yn lled eofn, gan ofyn am ei rieni. Atebai
y wraig ef yn daeog, a choeglyd anghyffredin, gan ddywedyd, 'Beth
oedd yr hen Iddew meddw yn dyfod yno,' oblegid tybient ei fod wedi
yfed, onid e ni fuasai yn siarad felly. Edrychai yr hen wr yn syn a
phryderus iawn ar bob peth yn y ty, gan synu llawer; ond ar y plant
bychain ar hyd y llawr y sylwai fwyaf. Edrychai yn llawn siomedigaeth
a gofid. Dywedodd yr hanes i gyd, iddo fod allan yn hela ddoe, a'i fod
yn awr yn dychwelyd. Dywedodd y wraig iddi glywed chwedl am dad ei gwr
flynyddau cyn ei geni, ei fod wedi myned ar goll wrth hela; ond fod
ei thad yn dywedyd wrthi nad gwir hyny, mai ei ladd a gafodd. Aeth y
wraig yn anystywallt, ac yn llwyr o'i chof eisiau fod yr hen 'Iddew' yn
myned allan. Cyffrodd yr hen wr, a dywedai mai efe ydoedd perchen y ty,
ac y byddai raid iddo gael ei hawl. Aeth allan i weled ei feddianau,
ac yn fuan i dy y deiliad. Er ei syndod, yr oedd pethau wedi newid
yn fawr yno. Ar ol ymddiddan am dro a hen wr oedranus wrth y tan,
edrychai y naill fwy fwy ar y llall. Dywedai yr hen wr beth fu tynged
ei ben gyfaill, mab Llech y Derwydd. Siaradent yn bwyllog am bethau
mebyd, ond yr oedd y cyfan fel breuddwyd. Beth bynag, penderfynodd
yr hen wr yn y cornel mai ei hen gyfaill, mab Llech y Derwydd,
oedd yr ymwelydd, wedi dychwelyd o wlad y Tylwyth Teg, ar ol bod
yno haner can' mlynedd. Credodd yr hen wr a'r farf wen ei dynged,
a mawr y siarad a'r holi fu gan y naill y llall am oriau lawer.
"Dywedai fod gwr Llech y Derwydd y diwrnod hwnw oddi cartref. Cafwyd
gan yr hen ymwelydd fwyta bwyd; ond er mawr fraw, syrthiodd y bwytawr
yn farw yn y fan. Nid oes hanes fod trengholiad wedi bod ar y corff;
ond dywedai y chwedl mae yr achos oedd, iddo fwyta bwyd ar ol bod yn
myd y Tylwyth Teg cyhyd. Mynodd ei hen gyfaill weled ei gladdu yn ochr
ei deidiau. Bu melldith fyth, hyd y silcyn ach, yn Llech y Derwydd,
o blegid sarugrwydd y wraig i'w thad-yng-nghyfraith, nes gwerthu y
lle naw gwaith."
The above tale translated into English reads as follows:--
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Elsewhere in the archive
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account