Folk-Lore of West and Mid-WalesDavies, Jonathan Ceredig
History
Folk-Lore of West and Mid-Wales
Davies, Jonathan Ceredig
Folklore -- Wales; Wales -- Social life and customs
"The intention of the bidder is this; with kindness and amity,
with decency and liberality for Einion Owain and Llio Ellis,
he invites you to come with your good will on the plate; bring
current money; a shilling, or two, or three, or four, or five; with
cheese and butter. We invite the husband and wife, and children,
and man-servants, and maid-servants, from the greatest to the
least. Come there early, you shall have victuals freely, and drink
cheap, stools to sit on, and fish if we can catch them; but if not,
hold us excusable; and they will attend on you when you call upon
them in return. They set out from such a place to such a place."
The following which appeared in a Welsh Quarterly "Y Beirniad," for
July, 1878, gives a characteristic account of a typical Bidder of a
much later date in Carmarthenshire:--
"Am Tomos fel gwahoddwr, yr wyf yn ei weled yn awr o flaen llygaid
fy meddwl.
"Dyn byr, llydan, baglog, yn gwisgo coat o frethyn lliw yr awyr,
breeches penglin corduog, gwasgod wlanen fraith, a rhuban glas yn
hongian ar ei fynwes, yn dangos natur ei swydd a'i genadwri dros
y wlad a dramwyid ganddo; hosanau gwlan du'r ddafad am ei goesau,
a dwy esgid o ledr cryf am ei draed; het o frethyn garw am ei ben
haner moel; dwy ffrwd felingoch o hylif y dybaco yn ymlithro dros
ei en; pastwn cryf a garw yn ei ddeheulaw. Cerddai yn mlaen i'r ty
lle y delai heb gyfarch neb, tarawai ei ffon deirgwaith yn erbyn y
llawr, tynai ei het a gosodai hi dan y gesail chwith, sych besychai
er clirio ei geg, a llefarai yn debyg i hyn:--'At wr a gwraig y
ty, y plant a'r gwasanaethyddion, a phawb o honoch sydd yma yn
cysgu ac yn codi. 'Rwy'n genad ac yn wahoddwr dros John Jones
o'r Bryntirion, a Mary Davies o Bantyblodau; 'rwy'n eich gwahodd
yn hen ac yn ifanc i daith a phriodas y par ifanc yna a enwais, y
rhai sydd yn priodi dydd Mercher, tair wythnos i'r nesaf, yn Eglwys
Llansadwrn. Bydd y gwr ifanc a'i gwmp'ni yn codi ma's y bore hwnw o
dy ei dad a'i fam yn Bryntirion, plwyf Llansadwrn; a'r ferch ifanc
yn codi ma's y bore hwnw o dy ei thad a'i mam, sef Pantyblodau,
yn mhlwyf Llanwrda. Bydd gwyr y "shigouts" yn myned y bore hwnw
dros y mab ifanc i 'mofyn y ferch ifanc; a bydd y mab ifanc a'i
gwmp'ni yn cwrdd a'r ferch ifanc a'i chwmp-ni wrth ben Heolgelli,
a byddant yno ar draed ac ar geffylau yn myned gyda'r par ifanc
i gael eu priodi yn Eglwys Llansadwrn. Wedi hyny bydd y gwr a'r
wraig ifanc, a chwmp'ni y bobol ifanc, yn myned gyda'u gilydd i
dy y gwr a'r wraig ifanc, sef Llety'r Gofid, plwyf Talyllechau,
lle y bydd y gwr ifanc, tad a mam y gwr ifanc, a Daniel Jones,
brawd y gwr ifanc, a Jane Jones, chwaer y gwr ifanc, yn dymuno
am i bob rhoddion a phwython dyledus iddynt hwy gael eu talu y
prydnawn hwnw i law y gwr ifanc; a bydd y gwr ifanc a'i dad a'i
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account