Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol. Ef a ddarfu
imi gyfieithu ychydig odlau o’u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o
_Loegr_; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i
mae yn rhaid im’ adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi
ddim i’w ddywedyd, os drwg yw’r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae’r
bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol
odiaeth; ond i mae’n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu
deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar
gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig
nac ysgrifenedig a welais i. Ir oedd yr Athraw hynod o _Fallwyd_, yr hwn
a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei
einioes, yn methu eu deongli. Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. _Edward Llwyd_
o’r _Musæum_, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus â
holl geinciau prifiaith _Prydain_. Ac yn ddiau o’r achos yma, nid oedd
genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y Beirdd, mewn llawer man,
oddiwrth flaen ac ol. Ir wyf yn rhyfeddu’n ddirfawr am rai o’r _Cymry_
sydd yn haeru fod gwaith _Taliesin_, a’i gydoesiaid _Aneurin Gwawdrydd_,
_Llywarch Hen_, a _Merddin Wyllt_, yn hawdd eu deall. Yn ddiau nid wyf i
yn deall mo honynt, ac i mae’r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw,
yn addef yr un peth. I mae’r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol
dyfodiad _Gwilym Fasdardd_, hyd farwolaeth, _Llywelyn ap Gruffydd_, yn
dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn. Hyn a
barodd i mi beidio â chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi,
trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam â hwynt. Ond gan i’r _Saeson_ daeru,
na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dâl ei ddangos; mi a wnaethum fy
ng’orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl,
y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn
rhaid i’r Beirdd, a’m cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy
ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.—Heblaw hyn oll, i
mae hyn o waith yn dyfod i’r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos mewn
dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr _Uch Alban_, gwedi
gosod allan ddau lyfr o waith _Ossian_; hen Fardd, meddai ef, cyn dyfod
Cristianogaeth i’w plith. Ac i mae’r llyfrau hyn mewn rhagorbarch gan
foneddigion dysgedig y _Saeson_. A rhaid addef eu bod wedi eu cyfieithu
yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi’r cwbl, fod yr _Ysgodog_ yn bwrw
hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru eu bod.
I mae’r _Gwyddelod_ yn arddelw _Ossian_ megis un o’u cydwladwyr hwynt; ac
i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn dangos, yn fy
nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae’r cyfieithydd yn son am dani; yn
enwedig dyfodiad Gwyr _Llychlyn_ i’r _Iwerddon_, yr hyn ni ddigwyddodd,
meddai hanesyddion yr _Iwerddon_, cyn y flwyddyn 700. Ac ni ddaeth yr
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account