Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsEvans, Evan
General
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards
Evans, Evan
Welsh poetry -- To 1550; Welsh poetry -- Translations into English
_Ysgodogion_ chwaith i sefydlu yn yr _Alban_, o flaen _Fergus Mac Ein_,
ynghylch y flwyddyn 503; fal i mae _William Llwyd_, Esgob _Caerwrangon_,
wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch llywodraeth eglwysig.
Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni fyddai hynny ronyn nes i
brofi _Ossian_ mor hyned ag i dywedir ei fod. O herwydd ped fuasai, pa
fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor hyfedr? I mae gwaith
ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny, tu hwnt i ddeall y
gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen _Frutaniaith_. Pwy o honom ni a
gymerai’r _Gododin_, gwaith _Aneurin Gwawdrydd_, Fychdeyrn Beirdd, a’i
gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd _Ffingal_ a _Themora_?
Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd y fath orchest arno.
Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o hono yma a thraw, y rhai
a ellwch eu gweled yn y traethawd _Lladin_ ynghylch y Beirdd. A gresyn
yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf fi yn ei ddeall, gwaith
godidog ydyw. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am _Daliesin_ Ben Beirdd,
nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu yn iawn un o’i Awdlau
na’i Orchanau. Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd y wlad, wedi eu tadogi
ar _Daliesin_ a _Myrddyn_; ond nid ydynt ond dychymygion diweddar, gwedi
eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth _Llywelyn ap Gruffydd_. Yn enwedig yn
amseroedd terfysglyd _Owain Glyndwr_, a’r ymdrech rhwyg pleidiau _Efrog_
a _Lancaster_. I mae hefyd eraill, gwedi eu lluniaethu gan y Meneich, i
atteb eu dibenion hwythau; ond i mae’r rhain oll yn hawdd eu gwahanu
oddiwrth awduraidd waith _Taliesin_, wrth yr iaith.—I mae yn ddiammau
genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei amser. Ir oedd yn gydnabyddus ag
athrawiaith y _Derwyddon_ am y μετεμψύχωσις, a’r Daroganau, y rhai
oeddynt yn ddiammau, weddillion o’r Credo paganaidd; canys nid yw
daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod, oddiwrth y _Ddar_, yr hon
ir oeddynt y _Derwyddon_ yn ei pherchi yn fawr iawn. A chan ei fod ef yn
wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus honno, ir oedd yr hyn a ddywedai
yn cael ei dderbyn a’i roesawu gan y gwerinos, megis ped fuasai wir
broffwyd. A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am Ferddin Emrys, a’i
broffwydoliaeth. Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu hynafiaid, oddiwrth
un wlad neu genedl!
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account