Folk-Lore of West and Mid-WalesDavies, Jonathan Ceredig
History
Folk-Lore of West and Mid-Wales
Davies, Jonathan Ceredig
Folklore -- Wales; Wales -- Social life and customs
"There is an old man in this neighbourhood of the name of Stephen,
employed in the vocation of 'Gwahoddwr,' who displayed, in my
hearing, so much comic talent and humour in the recitation of his
Bidding-song (which he complained, was, by repetition, become
uninteresting to his auditors) as to induce me to furnish him
with some kind of fresh matter. My humble composition, adapted,
in language and conceptions, as far as I could make it, to common
taste and capacities, this man now delivers in his rounds; and
I send it you as a specimen of a Bidder's Song, hoping that your
readers will be in some measure amused by its perusal:--
"Dydd da i chwi, bobl, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan Wahoddwr a chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynhes ar gariad.
Y mae rhyw greadur trwy'r byd yn grwydredig,
Nis gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig,
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad,
Ar bawb yn goncwerwr, a'i enw yw Cariad.
Yr ifanc yn awchus wna daro fynycha',
A'i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa';
Ond weithiau a'i fwa fe ddwg yn o fuan
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae'n taro yn lled annaturiol,
Nes byddant yn babwyr yn wir yr hen bobl,
Mi glywais am rywun a gas yn aflawen
Y bendro'n ei wegil yn ol pedwar ugain.
A thyma'r creadur trwy'r byd wrth garwyro
A d'rawodd y ddeu-ddyn wyf trostynt yn teithio,
I hel eich cynorthwy a'ch nodded i'w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i'ch brathu.
Ymdrechwch i ddala i fyny yn ddilys,
Bawb oll yr hen gystwm, nid yw yn rhy gostus--
Sef rhoddi rhyw sylltach, rai 'nol eu cysylltu,
Fe fydd y gwyr ifainc yn foddgar o'u meddu.
Can' brynu rhyw bethau yn nghyd gan obeithio
Byw yn o dawel a'u plant yn blodeuo;
Dwyn bywyd mor ddewis wrth drin yr hen ddaear,
A Brenhin y Saeson, neu gynt yr hen Sesar.
Can's nid wyf i'n meddwl mae golud a moddion
Sy'n gwneuthur dedwyddwch, dyweden hwy wedo'n;
Mae gofid i'r dynion, sy'n byw mewn sidanau,
Gwir mae'r byd hawsaf yw byw heb ddim eisiau.
'Roedd Brenhin mawr Lloegr a'i wraig yn alluog,
A chig yn eu crochan, ond eto'n byw'n 'ysgrechog;
Pe cawsai y dwliaid y gaib yn eu dwylo,
Yr wyf yn ystyried y buasai llai stwrio.
Cynal rhyw gweryl yr aent am y goron,
Ac ymladd a'u gilydd a hyny o'r galon;
'Rwy'n barod i dyngu er cymaint eu hanghen
Nad o'ent hwy mor ddedwydd a Stephen a Madlen.
Yr wyf yn attolwg i bob un o'r teulu,
I gofio fy neges wyf wedi fynegu;
Rhag i'r gwr ifanc a'i wraig y pryd hyny,
Os na chan' ddim digon ddweyd mai fi fu'n diogi.
Public-domain text, read in full here on John Shaqi.
Reviews
Reviews
No reviews yet
Be the first to share your thoughts on this work.
Join the Discussion
Join the discussion
Sign in to leave a comment or review.
Sign InorCreate an account